Sut ydw i'n canslo apwyntiad?

Os nad oes angen apwyntiad arnoch mwyach, mae’n bwysig eich bod chi’n ei ganslo cyn gynted ag y bo modd.

Os byddwch yn methu canslo apwyntiad cyn amser yr apwyntiad, bydd yn cael ei gofnodi fel apwyntiad na fynychwyd (DNA) yn eich meddygfa.

I ganslo apwyntiad:

  1. Mewngofnodwch i www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk yn y ffordd arferol.
  2. Dewiswch Fy Apwyntiadau, a bydd eich sgrin Apwyntiadau yn ymddangos.
  3. Bydd unrhyw apwyntiad rydych wedi’i drefnu, p’un ai a wnaethoch ei dtrefnu yn y feddygfa neu ar-lein, yn cael ei ddangos. Gallwch weld lleoliad, dyddiad, amser a chlinigwr yr apwyntiad/apwyntiadau.
  4. Dewiswch yr apwyntiad rydych yn dymuno ei ganslo a chliciwch Canslo.
  5. Bydd y sgrin Canslo eich apwyntiad yn ymddangos:

  1. Dewiswch reswm dros ganslo o’r gwymplen.

  2. Cliciwch Cadarnhau.

  3. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y neges Apwyntiad wedi’i ganslo’n llwyddiannus yn ymddangos. Efallai y byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau eich bod chi wedi canslo’r apwyntiad (gan ddibynnu ar ddewis eich meddygfa).

  4. Os na fyddwch yn llwyddianus, bydd y neges Canslo apwyntiad wedi methu ymddangos. Cliciwch Yn ôl i ddychwelyd i’r manylion Canslo Apwyntiad.

  5. Sylwer – Gan ddibynnu ar y drefn yn eich meddygfa, efallai y bydd torbwynt ar gyfer canslo. Mae hyn yn eich atal rhag canslo apwyntiadau ar-lein o gyfnod penodol cyn yr apwyntiad, er enghraifft o fewn 30 munud cyn amser yr apwyntiad. Os yw torbwynt canslo’n berthnasol a chewch eich atal rhag canslo’r apwyntiad, rhaid i chi gysylltu â’ch meddygfa cyn amser yr apwyntiad i ganslo.
  6. Sylwer – Pan fyddwch yn canslo apwyntiad ar-lein, bydd cwymplen o resymau dros ganslo i chi ddewis ohoni. Os ydych yn meddwl y dylid ychwanegu rheswm arall, cysylltwch â’ch meddygfa’n uniongyrchol, gan mai eich meddygfa sy’n gosod y rhestr yn eu system apwyntiadau meddyg teulu.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.